Y Grŵp Trawsbleidiol ar Rasio Ceffylau – Cofnodion y Cyfarfod Dydd Mawrth 6 Mehefin 2023 – 12-1pm Lleoliad: Ystafell Gynadledda A, Tŷ Hywel

Aelodau: Llyr Gruffydd AS (Plaid Cymru – Cadeirydd), Alun Davies AS (Llafur), James Evans AS

(Ceidwadwyr), Peter Fox AS (Ceidwadwyr), Joel James AS (Ceidwadwyr)

Staff y Senedd: Mike Bryan (Ymchwilydd Samuel Kurtz AS), Griff (Ymchwilydd Llyr Gruffydd AS) 

Allanol: Jack Barton (Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain – Ysgrifenyddiaeth), Beverley Thomas (Cynrychiolydd Rasio o Fan i Fan Cymru a Pherchennog Ceffylau Rasio)

 

Ymddiheuriadau: Samuel Kurtz AS (Ceidwadwyr)

Amser dechrau'r cyfarfod: 12:05pm

A Llyr yn hwyr yn dod o gyfarfod Plaid Cymru, dechreuodd Jack Barton gadeirio'r drafodaeth, gan ddiolch i'r aelodau am ddod cyn trosglwyddo’r awenau i Beverley Thomas er mwyn trafod Rasio o Fan i Fan Cymru.

Beverley Thomas – Diweddariad am Rasio o Fan i Fan Cymru – rhagor o wybodaeth ynghlwm.

Yn ei diweddariad, nododd Beverley y canlynol:

       Effaith Covid-19, gyda thua 50% o'r cyfranogwyr yn symud ymlaen o rasio o fan i fan.

       Bod rhai ffermwyr wedi rhoi'r gorau i gynnal rasys o fan i fan oherwydd newidiadau yn y defnydd o dir - er enghraifft, mae un safle yn dod yn fferm solar cyn hir - ac o ganlyniad i hynny mae maint y calendr wedi lleihau.

       Bod Rasys o Fan i Fan yng Nghymru yn ddigwyddiadau cymdeithasol pwysig i’r gymuned wledig, yn enwedig y digwyddiadau hynny sy’n cael eu cynnal ar wyliau banc ac sy'n tueddu i fod yn boblogaidd iawn. 

       Sut mae’r rhan fwyaf o geffylau yn Rasys o Fan i Fan yng Nghymru yn eiddo i syndicatau cymunedol sy'n ffordd dda o ennyn diddordeb pobl mewn rasio ceffylau.

       Nad yw rasys o fan i fan yn cael unrhyw gyllid gan y diwydiant rasio ehangach, ar wahân i grant gan y Bwrdd Ardollau i adeiladu ffensys, ac felly mae hunan-ariannu yn hanfodol ar gyfer yr hyfywedd ariannol cyffredinol. 

       Bod rasio o fan i fan, a'r cyfarfodydd rasio merlod sy’n gysylltiedig ag ef, wedi dod â ffynonellau allweddol o dalent ifanc Cymru i rengoedd joci proffesiynol rasio Prydain. Dechreuodd nifer o hyfforddwyr blaenllaw Cymru sydd bellach â thrwyddedau llawn rasio o fan i fan.

Sesiwn holi ac ateb

Gofynnodd Peter a fyddai ceffylau sy'n cymryd rhan mewn rasys o fan i fan wedi rasio o dan reolau rasio Prydain yn gyntaf. Cadarnhaodd Beverley fod hynny’n wir, a bod canran fawr o'r boblogaeth bresennol o geffylau wedi rasio o dan y rheolau hynny. Pwysleisiodd Jack bwysigrwydd rasio o fan i fan wrth ddarparu gyrfa arall i geffylau pedigri, yn enwedig o ystyried y strategaeth Lles Ceffylau.

Nododd Alun fod rhai traciau wedi cau, gan gynnwys Aberhonddu a Cheredigion yr oedd wedi ymweld â nhw o'r blaen, a gofynnodd i Beverley sut y gall y grŵp gefnogi rasio o fan i fan fel gwleidyddion. Nodwyd nifer o gamau gweithredu o'r drafodaeth a ddilynodd, gan gynnwys:

       Bod y Grŵp yn edrych ar ddadleuon ynghylch deddfwriaeth y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac yn nodi bod rasio o fan i fan yn rhywbeth da i’r gymdeithas sy'n dod o dir fferm

       Bod Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain yn cydweithio â Rasio o Fan i Fan Cymru i ymgysylltu â Chwaraeon Cymru

       Byddai Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn defnyddio’r un dull o gydweithio er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu’r gymuned rasio o fan i fan yng Nghymru. Roedd Llyr i rannu manylion cyswllt ar gyfer yr Undeb. 

       Roedd Beverley hefyd i wahodd y Dirprwy Weinidog Bowden i gyfarfod rasio o fan i fan.

Gofynnodd Peter beth arall y gellir ei wneud i annog tirfeddianwyr i gynnal rasys o fan i fan. Nododd Beverley broblemau o ran yswiriant a sicrwydd meddygol fel rhai o'r rhesymau mwyaf pam y mae ffermwyr yn cael eu hatal rhag cynnal rasys ond gellid eu cymell yn well pe bai mwy o gyllid ar gael gan y diwydiant.

Gofynnodd James a oedd lle i rasio o fan i fan gael ei gynnwys o fewn brand Rasio Ceffylau Cymru unwaith ei fod ar waith. Dywedodd Jack nad oedd am siarad ar ran y rhai sy'n gweithio ar y brand ond ei fod yn deall y gallai fod rhywfaint o gyfranogi a chydweithio.

Jack Barton – Diweddariadau gan Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain

Rhoddodd Jack ddiweddariadau am yr Adolygiad o’r Ddeddf Gamblo y rhyddhawyd papur gwyn ar ei gyfer ers i'r Grŵp gyfarfod ddiwethaf ac yr oedd yr Ardoll Betio Rasio Ceffylau, sef cyllid statudol ar gyfer rasio, yn cael ei adolygu fel rhan ohono. 

Rhoddwyd diweddariad hefyd i'r grŵp am brotestiadau ar gaeau ras o ystyried

protestiadau Animal Rising yn yr Ornest (“Derby”) y penwythnos blaenorol, yn ogystal ag ymweliad cadarnhaol gan swyddogion Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru â Ffos Las er mwyn dangos y mesurau rheoleiddio sydd ar waith i hyrwyddo lles ceffylau ar gaeau ras Prydain.

Rhoddwyd diweddariad am strategaeth diwydiant rasio Prydain a’r newidiadau posibl i Restr Gornestau 2024, gan gynnwys rhagor o ornestau o safon ar ddydd Sul a'r cysyniad o Premierisation er mwyn tacluso’r amserlen rasio ar brynhawn Sadwrn a chaniatáu mwy o le ar gyfer rasys betio.

Yn olaf, tynnodd Jack sylw at rai llwyddiannau Cymreig pwysig yn ystod y gwanwyn, gan gynnwys Kitty's Light a hyfforddwyd gan Christian Williams ac a enillodd Ras Fawr Genedlaethol yr Alban yn Ayr a Chwpan Aur Bet365 yn Sandown ar ddiwrnod olaf tymor y Neidiau.

Sesiwn holi ac ateb

Gofynnodd Llyr i Jack ddrafftio llythyr ar ran y Grŵp Trawsbleidiol i longyfarch Christian Williams ar ei lwyddiannau.

Gofynnodd James a oedd cyhoeddi cwmni Betfred fel noddwr y Derby yn broblem ar gyfer rasio a mynegodd bryderon ynghylch brand betio yn noddi ras mor llewyrchus. Cadarnhaodd Jack fod hwn yn benderfyniad masnachol a wnaed gan The Jockey Club ac nid gan Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, ond bod amgylchedd heriol ar hyn o bryd o ran denu noddwyr ym myd rasio.

Roedd sawl aelod yn teimlo y byddai'n ddoeth gwella diogelwch ar Gaeau Ras Cymru a chynllunio ar gyfer protestiadau posibl ar draciau Cymru. Nododd Jack ei bod yn ymddangos eu bod nhw (actifyddion Animal Rising) yn targedu'r dyddiau mawr ar hyn o bryd felly mae'n debygol mai'r pryder mwyaf dybryd fyddai iar gyfer Cas-gwent yn yr hydref/gaeaf.

Nododd James fod gwaith da wedi’i wneud ym maes rasio o ran cael gwared â rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â risg yn y gamp yn ddiweddar a gwella enw’r gamp o safbwynt Lles Anifeiliaid. Gofynnodd a fyddai Jack yn hapus i siarad â chydweithwyr o’r diwydiant Saethu am rai o'r gwelliannau a wnaed ym maes rasio. Dywedodd Jack ei fod yn hapus i James drefnu trafodaeth.